Islam yn Seland Newydd

Islam yn Seland Newydd
Enghraifft o'r canlynolIslam of an area Edit this on Wikidata
MathIslam on the Earth, religion in New Zealand Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bachgen Moslemaidd mewn mosg yn Christchurch, 2007

Dechreuodd hanes Islam yn Seland Newydd gyda dyfodiad mwynwyr aur Mwslemaidd o Tsieina yn y 1870au. Ymsefydlodd nifer bychan o Fwslemiaid o India a dwyrain Ewrop yn y wlad o'r 1900au cynnar hyd at y 1960au. Ni ddechreuodd mewnlifiad o Fwslemiaid ar raddfa fawr tan y 1970au gyda dyfodiad Indiaid o Ffiji, ac yna yn y 1990au gyda ffoaduriaid rhyfel o wahanol wledydd. Sefydlwyd y ganolfan Islamaidd gyntaf yn 1959 ac erbyn hyn mae nifer o fosgiau a dwy ysgol Islamaidd yn y wlad.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne